Cyf: HVT2834/caf
Annwyl Huw ,
Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru
Diolch am eich llythyr dyddiedig 24 Ebrill lle rydych yn rhannu rhai ystyriaethau amserol a defnyddiol cyn ein hymchwiliad i Gyflwr y Ffyrdd yng Nghymru.
Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn 2011 ar Brosiectau Trafnidiaeth Mawr wedi bod yn amlwg yn ein hystyriaethau cynnar ac rydym yn awyddus i ddarganfod ym mha ffordd y mae'r adroddiad hwnnw, a gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Pedwerydd Cynulliad, wedi dylanwadu ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio yn y maes hwn.
Rwy'n ddiolchgar am eich holl awgrymiadau ac wedi gofyn i'r tîm clercio ystyried sut y gallwn rannu'r hyn a ddysgir â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth i ni ymchwilio i'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, er mewn cyd-destunau gwahanol.
Cofion gorau,
Russell George